Croeso i Banel Dyfarnu Cymru
Rydym yn ymdrin ag anghydfod sy'n ymwneud â:

Cyfeiriadau gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio honiadau bod aelodau etholedig a chyfetholedig wedi torri cod ymddygiad statudol awdurdod at Banel Dyfarnu Cymru fel y gall benderfynu arnynt. Bydd yr Ombwdsmon yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i honiadau bod aelod wedi torri'r cod cyn penderfynu p'un a fydd yn eu cyfeirio ai peidio.
Tribiwnlysoedd sydd i ddod
Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae rhestr o wrandawiadau tribiwnlysoedd, gan gynnwys manylion tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i'w gweld ar-lein.
Gwybodaeth i dystion
Efallai y bydd gofyn i dystion fynd i wrandawiad y tribiwnlys er mwyn rhoi tystiolaeth. Hefyd, gall Panel Dyfarnu Cymru wysio tystion i fynd i wrandawiad y tribiwnlys mewn rhai amgylchiadau.
Ein cefndir
Mae Panel Dyfarnu Cymru, yr aelodau a phenderfyniadau, yn gorff annibynnol a gafodd ei sefydlu o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae'r tribiwnlys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ond mae'r tribiwnlys, yr aelodau a phenderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru, yn annibynnol ar y Llywodraeth. Darperir gwybodaeth ystadegol a chofnod blynyddol o weithgareddau yn Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.