Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, rydym wedi trefnu ein cwestiynau mwyaf cyffredin a'r atebion yn benawdau pwnc.

Dewiswch ddolen isod:

  • Ynglŷn â Panel Dyfarnu Cymru

    Beth yw’r Panel Dyfarnu?

    Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd dan Ran III Deddf Llywodraeth Leol 2000 yw Panel Dyfarnu Cymru.

    Rôl y Panel yw ffurfio tribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim i ystyried a yw aelodau etholedig neu gyfetholedig cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad statudol eu hawdurdod.

    Mae’r Panel hefyd yn gwrando ar apeliadau gan aelodau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Safonau eu hawdurdod, sy’n nodi eu bod wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad eu hawdurdod.

    Pwy yw aelodau’r Panel?

    Mae Panel Dyfarnu Cymru yn cynnwys Llywydd (aelod cyfreithiol), aelod cyfreithiol arall a phedwar aelod lleyg a benodir gan y Prif Weinidog yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Dyma’r aelodau presennol:

    • Mrs Claire Sharp - Llywydd
    • Ms Claire Jones
    • Miss Susan Hurds
    • Dr Glenda Jones
    • Miss Siân Jones
    • Ms Juliet Morris

    Pwy all gyflwyno honiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

    Gall unrhyw un gyflwyno honiad ysgrifenedig i’r Ombwdsmon bod aelod etholedig neu gyfetholedig wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad awdurdod. Bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu a yw’r honiad yn cyfiawnhau cynnal ymchwiliad.

    Gall yr ymchwiliad gael ei gynnal gan yr Ombwdsmon, neu gall yr Ombwdsmon gyfeirio’r honiad at Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw er mwyn i’r Swyddog hwnnw gynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad i Bwyllgor Safonau’r awdurdod.

    Sut y caiff achosion eu cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru?

    Gall achosion ddod i law mewn dwy ffordd:

    • drwy law Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n gyfrifol am ymchwilio i honiadau bod aelodau etholedig neu gyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi gweithredu’n groes i’r codau ymddygiad statudol y mae’r awdurdodau hynny wedi’u mabwysiadu, ac sy’n gyfrifol am adrodd ynghylch yr honiadau hynny.
    • drwy apeliadau gan gynghorwyr lleol yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Safonau eu hawdurdod perthnasol.
  • Cyfeiriadau gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)

    Beth fydd yn digwydd pan fydd y tribiwnlys yn cael atgyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

    Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi bod atgyfeiriad wedi dod i law oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Byddwch yn cael Ffurflen Ateb Hysbysiad Cyfeirio (PDC01) i’w llenwi er mwyn ymateb i’r atgyfeiriad.

    Sut y gallaf i fynegi amheuaeth ynghylch y ffeithiau perthnasol?

    Gellir defnyddio Adran 4 y Ffurflen Ateb Hysbysiad Cyfeirio i nodi unrhyw amheuaeth a allai fod ynghylch y ffeithiau perthnasol.

  • Apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgor safonau

    Beth fydd yn digwydd pan fydd y tribiwnlys yn cael apêl?

    Bydd y tribiwnlys yn cydnabod yr apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau. Os na fydd Ffurflen Hysbysiad Apêl (PDC05) wedi’i llenwi, byddwn yn anfon copi o’r ffurflen atoch er mwyn i chi ei llenwi.

    Sut y gallaf i egluro fy rhesymau dros apelio?

    Gellir defnyddio Adran 4 y Ffurflen Hysbysiad Apêl i nodi eich rhesymau dros apelio. Dylech geisio rhoi trosolwg o’ch rhesymau dros amau canfyddiadau’r Pwyllgor Safonau. Bydd rhannau dilynol y ffurflen yn eich galluogi i roi gwybodaeth fanylach i gefnogi’r rhesymau yr ydych wedi’u nodi.

    Sut y gallaf i fynegi amheuaeth ynghylch y ffeithiau perthnasol?

    Gellir defnyddio Adran 5 y Ffurflen Hysbysiad Apêl i nodi unrhyw amheuaeth a allai fod ynghylch y ffeithiau perthnasol. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu drosto’i hun ynghylch y ffeithiau perthnasol, ar ôl ystyried yr hyn sydd gennych chi a’r hyn sydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu’r Swyddog Monitro (fel y bo’n briodol) a’r Pwyllgor Safonau i’w ddweud am yr achos honedig o weithredu’n groes i’r cod ymddygiad.

  • Gweithdrefnau’r tribiwnlys

    A allaf i anfon fy ffurflen i’r tribiwnlys drwy ebost?

    Mae Panel Dyfarnu Cymru yn fodlon derbyn gohebiaeth drwy ebost. Mae'r manylion cyswllt i'w gweld yn yr adran Cysylltu â Ni o'r wefan hon. Gallwch hefyd anfon gwybodaeth drwy’r post.

    Beth os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?

    Cofiwch eich bod yn rhoi gwybod inni am unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych pan fyddwch yn anfon eich ffurflen atom fel y gallwn wneud addasiadau yn ôl yr angen i sicrhau bod y gwrandawiad yn gwbl hygyrch.

    Sut y caiff dogfennau eu hanfon ataf?

    Caiff pob dogfen weithdrefnol ei hanfon drwy’r Post Brenhinol gan ddefnyddio’r gwasanaeth danfon arbennig neu’r gwasanaeth danfon cofnodedig, oni bai eich bod wedi cadarnhau eich bod am gael gohebiaeth drwy ebost.

    A allaf i ymateb yn Gymraeg?

    Mae’r tribiwnlys yn derbyn pob gohebiaeth yn Gymraeg.

    A all y tribiwnlys roi cyngor?

    Ni all y tribiwnlys roi cyngor. Mae’r tribiwnlys yn gorff barnwrol annibynnol, felly rhaid iddo barhau’n ddiduedd wrth ymdrin ag achosion. Gall ysgrifenyddiaeth y tribiwnlys ddarparu cyngor ynghylch gweithdrefnau’r tribiwnlys, ond ni all y tribiwnlys ddarparu cyngor cyfreithiol nac arweiniad ynghylch sut i gyflwyno achos.

    A gaiff fy ymateb i ac unrhyw dystiolaeth ategol eu cadw’n gyfrinachol?

    Dim ond i’r sawl sy’n rhan o’r achos y bydd gwybodaeth a ddarperir i’r tribiwnlys mewn perthynas ag atgyfeiriad neu apêl yn cael ei datgelu. Fodd bynnag, caiff gwrandawiadau eu cynnal yn gyhoeddus.

    Beth fydd yn digwydd ar ôl i honiad gael ei wneud?

    Bydd yr Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad er mwyn dod i un o’r casgliadau canlynol:

    • ni weithredwyd yn groes i’r cod, neu nid oes angen cymryd unrhyw gamau gweithredu pellach;neu
    • dylid llunio adroddiad ynghylch yr ymchwiliad a gwblhawyd a’i gyfeirio at Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol neu Lywydd Panel Dyfarnu Cymru.

    Beth fydd yn digwydd pan gaiff achos ei gyfeirio at y Panel?

    Pan fydd yr Ombwdsmon yn anfon ei adroddiad at Lywydd y Panel Dyfarnu, bydd tribiwnlys yn cael ei ffurfio o blith aelodau’r Panel i ystyried yr adroddiad a gwrando ar sylwadau gan yr aelod sy’n destun y gŵyn ac unrhyw dystion eraill. Gall yr aelod fod yn bresennol neu gall gael ei gynrychioli gan unigolyn arall.

    A allaf i ddewis peidio â mynychu neu beidio â chael fy nghynrychioli mewn gwrandawiad tribiwnlys?

    Gallwch. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a ddylai fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb yr aelod ynteu a ddylai ddod i benderfyniad ar sail sylwadau ysgrifenedig, os oes rhai, a wnaed gan yr aelod neu ar ran yr aelod.

  • Gwybodaeth i dystion

    Sut y caiff tystion eu galw i wrandawiadau tribiwnlys?

    Gall tystion gael eu galw gan yr aelod yr honnir iddo weithredu’n groes i’r cod ymddygiad.

    Yn ogystal, gall tystion gael eu galw gan y tribiwnlys ei hun.

    Sut y bydd tyst yn cael gwybod am wrandawiad?

    Os aelod sydd wedi gofyn am bresenoldeb tyst, yr aelod fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y tyst yn cael gwybod am y gwrandawiad a’r aelod fydd yn gyfrifol am gadarnhau y bydd y tyst yn bresennol.

    Os bydd y tribiwnlys yn dymuno galw tystion, bydd y Cofrestrydd yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt am y gwrandawiad a bydd y Cofrestrydd yn cadarnhau y byddant yn bresennol.

    Gall y tribiwnlys wysio tyst?

    Mae gan y tribiwnlys y pŵer i wysio tystion os oes angen. Gall y tribiwnlys wneud hynny o’i ddewis ei hun neu ar gais yr aelod. Ni fydd tribiwnlys yn gwysio tyst oni bai bod y tyst wedi gwrthod mynychu.

    Faint o dystion y gallaf i eu galw ar fy rhan?

    Bydd nifer y tystion a gaiff eu galw’n dibynnu ar y tribiwnlys. Fodd bynnag, gall y tribiwnlys gyfyngu ar nifer y tystion a gaiff eu galw gan yr unigolyn a gyhuddir, os yw’n ymddangos i’r tribiwnlys na fydd y tystion yn cyflwyno tystiolaeth newydd bwysig o ffaith, neu os gelwir ar ormod o dystion i dystio i gymeriad unigolyn.

    Beth yw rôl y tyst?

    Rôl y tyst yw darparu tystiolaeth o ffaith neu dystiolaeth i gefnogi cymeriad yr aelod a gyhuddir.

    Yn ogystal, gall tystion ddarparu tystiolaeth o’r camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd y panel yn dod i’r casgliad bod aelod wedi gweithredu’n groes i’r cod ymddygiad.

    A all tyst hawlio treuliau?

    Gall tyst hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth, a lle bo’n briodol gall hawlio iawndal am golli amser o’r gwaith ar sail y cyfraddau a nodir yn Atodiad A y Canllaw i Dystion (PDC09).

    Ni fydd y Panel Dyfarnu yn talu treuliau unrhyw drydydd parti sy’n mynychu tribiwnlys achos gyda thyst, er enghraifft ffrind, aelod o’r teulu neu gynrychiolydd cyfreithiol.

    A fydd y Panel Dyfarnu yn talu unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt?

    Mewn rhai amgylchiadau, gall y Panel Dyfarnu gytuno i dalu treuliau ychwanegol y bydd unigolyn y mae’n ofynnol iddo fynychu tribiwnlys achos yn mynd iddynt. Rhaid cytuno ar unrhyw dreuliau ychwanegol â’r Panel Dyfarnu cyn yr eir iddynt. Rhaid i unrhyw hawliad gael ei gefnogi gan yr holl ddogfennau perthnasol.

    A gaiff treuliau eu talu mewn perthynas â gwysio tyst?

    Dan baragraff 8 Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (OS 2001 Rhif 2288), nid yw’n ofynnol i unrhyw unigolyn a gaiff ei wysio i ymddangos gerbron tribiwnlys a ffurfiwyd gan Banel Dyfarnu Cymru wneud hynny oni bai bod y treuliau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â bod yn bresennol yn cael eu talu iddo.

  • Gwrandawiadau

    Faint o aelodau’r Panel sy’n bresennol mewn gwrandawiad tribiwnlys?

    Tri, fel rheol. Caiff y tribiwnlys ei gadeirio gan un o aelodau cyfreithiol y Panel.

    Sut beth fydd y tribiwnlys?

    Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd y Cadeirydd yn esbonio’r drefn weithredu y bydd y tribiwnlys yn ei mabwysiadu. Bydd y tribiwnlys, hyd y gellir, yn ceisio osgoi ffurfioldeb wrth weithredu. Bydd hawl gan yr unigolyn sy’n destun y gŵyn roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y tribiwnlys. Mae canllawiau pellach ar weithdrefnau tribiwnlys ar gael gan y Cofrestrydd i'r Panel ar y rhan Canllawiau a Ffurflenni o'r wefan hon.

    A yw’r tribiwnlysoedd yn agored i’r cyhoedd a’r wasg?

    Ydynt, oni bai bod y tribiwnlys wedi cael cais i gynnal y gwrandawiad yn breifat a’i fod wedi cytuno i wneud hynny, neu fod y tribiwnlys yn penderfynu ar y dydd bod materion na ddylai’r cyhoedd fod yn rhan ohonynt. Fodd bynnag, ni chaniateir defnyddio camerâu, offer fideo neu offer recordio arall yn ystod y trafodion.

    Sut y gallaf i ddarganfod ym mhle a phryd y caiff tribiwnlys ei gynnal?

    Bydd manylion trefniadau tribiwnlysoedd yn cael eu cyhoeddi yn yr adran Tribiwnlysoedd sydd i Ddod ar y wefan hon neu gan Gofrestrydd y Panel. Mae manylion cyswllt i'w gweld ar y dudalen Cysylltu â Ni ar y wefan hon.

    A yw’r tribiwnlys yn fodlon cynnal gwrandawiadau yn Gymraeg?

    Gofynnir i chi nodi eich dewis iaith ar y ffurflenni cais. Cyn y gwrandawiad, bydd y tribiwnlys hefyd yn ceisio sefydlu dewis iaith unrhyw unigolion eraill sy’n cymryd rhan ynddo.

  • Y penderfyniad

    Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r tribiwnlys ystyried y dystiolaeth?

    Ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar, bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ynghylch a ydych wedi methu â dilyn darpariaethau’r cod ymddygiad.

    Pa gosbau y gall tribiwnlys eu rhoi?

    Mewn achosion a gaiff eu cyfeirio’n uniongyrchol gan yr Ombwdsmon, mae ystod o gosbau ar gael i’r tribiwnlys.

    Mewn achosion apêl, bydd y tribiwnlys yn penderfynu a ddylid cadarnhau ynteu wrthdroi penderfyniad Pwyllgor Safonau, naill ai drwy gymeradwyo’r gosb a roddwyd neu drwy gyfeirio’r mater yn ôl at y Pwyllgor.

    Mae manylion llawn y cosbau i’w gweld yn y cyhoeddiadau canlynol sydd ar gael ar y rhan Canllawiau a Ffurflenni o'r wefan hon.

    Atgyfeiriadau – Canllaw ar Gosbau (PDC04)
    Apeliadau – Canllaw ar Gosbau (PDC08)

    Pwy fydd yn cael gwybod am benderfyniad y tribiwnlys?

    Caiff copi o’r penderfyniad ei anfon at yr unigolyn sy’n destun y gŵyn, Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, yr Ombwdsmon a’r unigolyn a gyflwynodd yr honiad gwreiddiol (os yw’n hysbys).

    Pryd y bydd pob parti’n cael gwybod am y penderfyniad?

    Fel rheol, bydd y partïon yn cael gwybod am y penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad. Fodd bynnag, mae’n bosibl weithiau y bydd tribiwnlys yn gohirio ei benderfyniad. Caiff y penderfyniad a’r rhesymau drosto eu cadarnhau mewn datganiad ysgrifenedig cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y gwrandawiad.

    A gaiff penderfyniad y tribiwnlys ei gyhoeddi?

    Caiff y penderfyniad ei gyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod perthnasol. Caiff copi o’r penderfyniad ei gyhoeddi hefyd ar adran Penderfyniadau y wefan hon.

    Pan fydd tribiwnlys yn gwrando ar dystiolaeth yn breifat, gellir gwneud newidiadau i destun yr adroddiad ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad er mwyn cynnal cyfrinachedd.

    A geir hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys?

    Mewn rhai amgylchiadau lle caiff achosion eu cyfeirio’n uniongyrchol at y Panel Dyfarnu gan yr Ombwdsmon, gall y sawl sy’n destun y gŵyn ofyn am ganiatâd yr Uchel Lys i apelio yn erbyn penderfyniad.

    Ni cheir hawl i apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys a ffurfiwyd i ystyried apêl yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Safonau, ond fel corff cyhoeddus gall y Panel Dyfarnu a’i dribiwnlysoedd fod yn destun adolygiad barnwrol lle bo hynny’n briodol.

  • Danfon a derbyn e-byst diogel gan ddefnyddio Egress Switch

    Mae’r tribiwnlys wedi cyflwyno meddalwedd newydd o’r enw Egress Switch, sy’n ein helpu i ddanfon yn ddiogel e-byst a dogfennau i gyfeiriadau e-bost sydd heb eu gwarchod. Mae hyn o fudd wrth e-bostio ymgeiswyr, defnyddwyr gwasanaeth, cwmnïau cyfreithwyr ac asiantaethau eraill nad ydynt ar rwydweithiau sydd wedi’u gwarchod, gan sicrhau bod y tribiwnlys yn bodloni gofynion diogelwch a diogelu data.

    Pam bod y tribiwnlys yn defnyddio Egress Switch?

    Mae Egress Switch yn caniatáu i staff y tribiwnlys anfon gwybodaeth gyfrinachol i gyfrifon e-bost allanol (gan gynnwys Hotmail, Yahoo a Gmail). Mae natur gwaith y tribiwnlys yn golygu ein bod yn aml yn ymdrin â gwybodaeth sensitif, ac nid ydym am i’r wybodaeth hon fynd i’r dwylo anghywir. Mae mesurau fel gwasanaethau post gwarchodedig wedi bod ar waith ers tro. Fodd bynnag, rydym yn anfon gwybodaeth drwy e-bost fwyfwy gan fod hyn yn ffordd gyflymach a chyfleus i’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym felly wedi cyflwyno darn o feddalwedd hawdd ei defnyddio a fydd yn helpu i sicrhau bod unrhyw wybodaeth a anfonir drwy e-bost yn cael ei gwarchod.

    Oes modd defnyddio Egress Switch am ddim?

    Oes. Gall pawb sy’n derbyn e-byst drwy Egress Switch gan y tribiwnlys eu gweld ac ymateb iddynt am ddim.

    Sut mae modd gweld e-byst sydd wedi’u hamgryptio drwy Egress?

    Bydd angen creu cyfrif Egress y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r system cyn gallu mewngofnodi i weld yr e-bost. Mae’r broses hon yn fyr ac yn syml. Er mwyn creu cyfrif, mae angen mewnbynnu cyfeiriad e-bost a gosod cyfrinair. Wedyn, bydd cod gweithredu’n cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn er mwyn gallu mewngofnodi a darllen e-byst. Mae canllaw cam wrth gam i’r broses hon ar gael ar wefan Egress Switch.

    A fydd mwy nag un person yn gallu gweld e-bost wedi iddo gael ei ddadgryptio?

    Yn gyffredinol, dim ond y derbynnydd gwreiddiol sy’n gallu darllen e-byst. Fodd bynnag, mae modd addasu’r ‘gosodiadau mynediad’ i ganiatáu i eraill eu darllen. Mae hyn yn ddefnyddiol yn achos cyfeiriadau grŵp, neu os oes angen i gyfreithiwr rannu e-byst gyda chydweithwyr neu gynorthwywyr. Darllenwch am sut i wneud y newidiadau hynny.

    A oes modd defnyddio cyfrifon e-bost diogel y System Cyfiawnder Troseddol (CJSM) o hyd?

    Oes. Nid yw’n hanfodol i ddefnyddio Egress Switch. Fodd bynnag, byddwn yn eich annog i ymateb drwy Egress oherwydd y problemau amrywiol sydd wedi codi gyda chyfrifon CJSM (e.e. blychau post bach, costau trwyddedu).

    Oes modd defnyddio Egress Switch ar ffôn symudol neu dabled?

    Oes. Mae gan Egress Switch wefan sy’n addas ar gyfer dyfeisiau symudol. Hefyd mae ap Egress Switch ar gael ar gyfer dyfeisiau BlackBerry ac iPhones/iPads, a bydd hyn ar gael yn fuan ar gyfer dyfeisiau Android.

    Oes modd defnyddio Egress Switch ar Apple Mac?

    Oes. Mae modd gosod y cleient ar Mac OSX 10.6 ac yn uwch.

    A yw Egress yn storio fy nata o gwbl?

    Nid yw Egress yn trin nac yn storio unrhyw wybodaeth y mae defnyddwyr yn ei rhannu. Caiff yr wybodaeth ei hamgryptio drwy amgryptio AES 256-bit a’i drosi i becyn wedi’i warchod er mwyn ei drosglwyddo i’r derbynnydd drwy CD/DVD, cof bach USB, ffeil leol, FTP, HTTP neu atodiad e-bost. Yr unig wybodaeth y mae Egress yn ei chadw yw’r fath sy’n ymwneud â rheoli defnyddwyr, rheoli pecynnau ac archwilio. Mae Egress yn cyfrif yr wybodaeth hon yn sensitif hefyd, felly mae wedi cynllunio’r peiriant polisi i ddefnyddio trafodion gwarchodedig, dilysu manwl a chronfa ddata ar weinydd sydd wedi’i warchod a’i amgryptio.

    A all Egress weld fy ngwybodaeth?

    Nid yw Egress yn gallu gweld eich gwybodaeth. Mae meddalwedd y cleient Egress yn amgryptio ac yn dadgryptio’ch gwybodaeth ar eich peiriant chi, felly nid yw Egress yn gallu ei gweld.

    Pwy all derbynwyr allanol gysylltu â nhw os ydyn nhw’n cael problemau technegol ag Egress Switch?

    Dylent gysylltu’n uniongyrchol â thîm cymorth Egress drwy’r ffyrdd canlynol:

    E-bost support@egress.com
    Ffôn 0871 376 0014

    Mae cyngor a chyfarwyddyd pellach ar ddefnyddio Egress Switch ar gael ar wefan Egress.

    Os oes gennych ymholiadau pellach am Egress Switch a’r defnydd ohono yn y tribiwnlys, e-bostiwch flwch post y tribiwnlys.

     

Dolenni perthnasol

Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae rhestr o wrandawiadau tribiwnlysoedd, gan gynnwys manylion tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i'w gweld ar-lein.